Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
24 Mai 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12843
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 – 4 a 6 – 9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.31
3 Dadl: Y Jiwbilî Blatinwm
Dechreuodd yr eitem am 14.53
NDM8006 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
Yn llongyfarch Ei Mawrhydi y Frenhines ar achlysur ei Jiwbilî Blatinwm ac yn talu teyrnged i’w chefnogaeth ddiwyro i Gymru dros y 70 mlynedd ddiwethaf.
Cefnogwyr:
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu Anableddau Dysgu
Dechreuodd yr eitem am 15.31
5 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg yn y gweithlu addysg
Dechreuodd yr eitem am 16.02
6 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyfiawnder yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 16.33
7 Cyfnod pleidleisio
Nid oedd cyfnod pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.24
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 25 Mai 2022